1,2,3,4; 1+2,3+4,5+6,7+8. O tyr'd i ben, ddedwyddaf ddydd, A gâd i'm hysbryd fyn'd yn rhydd; Rho brawf, rho brawf ar frys i mi O ddwyfol haeddiant Calfari. Fel gallwyf rodio'n ddinacâd Dan awel hyfryd rin y gwaed; A threulio'm hamser, ddydd a nos, Mewn myfyr am dy angeu loes. Ac na bo gras o fewn y nef Na chaffwyf ran o hono ef; A gwna na byddo genyf flas, Ond yn dy gariad a dy ras. Fy lloches, a fy noddfa glyd, Fo edrych ar dy wyneb pryd; A'm hamser elo heibio'n llawn Wrth ganu i'th enw, foreu a nawn. Fe enaid 'hed tua'r nef o hyd, Ac aed dy galon yno i gyd; A doed cystuddiau i mewn yn lli, Minnau a gwynaf wrthyt ti: 'Does unrhyw ofid, unrhyw boen, Na wasgodd ar yr addfwyn Oen; Ac yne ofid ef a'i gri, Mae holl esmwythder fy enaid i. Mi wn mai meiau duon iawn, Yw'r achoso'm cystuddiau'n llawn; Symud fy mai fe gwymp y ffon: O'th sanctaidd law y funud hon: 'Does yn dy galon ond lesâad, Maddeuant, hêdd, a gwir iachâd; Cymmer dy ffordd, can's credu 'rwyf, Mai dyna'r modd iachêir fy nghlwy. - - - - - 1,2,4; 1+2,3+4. O! tyr'd i ben, ddedwyddaf ddydd, Na gâd i'm hysbryd fyn'd yn rhydd; Rho brawf, rho brawf, ar frys i mi O haeddiant aberth Calfari. Boed i mi rodio'n ddinacâd Dan awel hyfryd rin dy waed A threulio'm hamser, ddydd a nos, Mewn myfyr am dy angeu loes. O! na foed gras o fewn y nef Na chaffwyf ran o hono ef; A gwna na byddo genyf flas Ond yn dy gariad, a dy ras. Fy unig gysur yn y byd Yw edrych ar dy wyneb pryd; A'm horiau elo heibio'n llawn Wrth ganu am dy ddwyfol ddawn.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]:
Tonau [MHD 8888D]: gwelir: Fy enaid tua'r nefoedd 'hed I ble'r âi 'mofyn heddwch drud? Mae'n perthyn i mi bob rhyw bla |
O come to pass, thou last day, And let my spirit go free; Give an experience, give an experience quickly to me Of the divine merit of Calvary. Thus I may walk innocently Under the delightful breeze of the virtue of thy blood; And spend my time, day and night, In meditation on thy throes of death. And be there no grace within heaven In which I have no part; And make me have no taste But of thy love and thy grace. My secret place, and my secure refuge, Be looking upon thy countenance; And may my time go past fully While singing to thy name, morning and evening. My soul, fly toward heaven always, And may thy heart go there altogether; And let afflictions come in as a flood, I shall complain unto thee: There is no grief, no pain, That did not press upon the gentle Lamb; And in his grief and his cry, Is all the relief of my soul. I know that very black faults Are the cause of my afflictions fully; Move my fault the rod falls: From thy sacred hand this minute: In thy heart is nothing but benefit, Forgiveness, peace, and true healing; Take thy way, since believing I am, That that is the way my wound shall be healed. - - - - - O come to pass, thou last day, Nor let my spirit go free; Give an experience, give an experience, quickly to me Of the merit of the sacrifice of Calvary. Thus may I walk innocently Under the delightful breeze of the virtue of thy blood And spend my time, day and night, In meditation about thy throes of death. O that there would be no grace within heaven In which I have no part; And make it that I have no taste But of thy love, and thy grace. My only comfort in the world Is to look upon the countenance of thy face; And may my days go past fully While singing about thy divine gift.tr. 2016,21 Richard B Gillion |
|